1 Rhagfyr 2005
Dirprwy Gweinidog newydd yn dangos esiampl dda yn ystod Wythnos Genedlaethol y Coed
Tamsin Dunwoody AC yn ymuno â phlant y Rhws wrth iddyn nhw gymryd rhan yn yr ymgyrch plannu coed
Fe gafodd plant o Ysgol y Rhws, Y Rhws, help llaw Dydd Mercher wrth iddyn nhw blannu coed fel rhan o ymgyrch plannu coed uchelgeisiol Coed Cadw (the Woodland Trust). Tamsin Dunwoody AC, sydd newydd ei phenodi fel Dirprwy Gweinidog y Amgylchedd Cynllunio a Chefn Gwlad, a ymunodd â nhw ym Mharc Gwledig Porthkerry ger y Barri, i’w helpu nhw i blannu coed, i ddysgu mwy am ymgyrch plannu coed Coed i Bawb, ac i ddangos esiampl dda yn ystod Wythnos Genedlaethol y Coed (1).
Fel rhan o ymgyrch Coed i Bawb, mae Coed Cadw yn anelu at blannu coeden ar gyfer pob un plentyn yn y DU dros gyfnod o bum mlynedd, sef 12 miliwn o goed, ac i sicrhau fod miliwn o blant yn helpu i wneud hyn. Ym Mharc Gwledig Porthkerry, mae Coed Cadw wedi ymuno â Chyngor Bro Morgannwg3, sydd eisiau creu rhagor o goetir brodorol ar y safle. Gyda help y Cyngor, mae Coed Cadw wedi cytuno i drefnu i ryw 300 o blant o 6 ysgol leol blannu coed yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar y 28 Tachwedd, yn cyfrannu at y 6,000 o goed y bydd Coed Cadw yn eu plannu ar y safle eleni.
Dywed Jon Winder o Goed Cadw, a drefnodd y digwydd: “Bwriad ymgyrch Coed i Bawb yw ysbrydoli cenhedlaeth newydd o bobl ifainc i ailgysylltu â byd natur. Rydym yn credu y dylai pob plentyn gael y cyfle i blannu coed, a ie, dod yn fwdlyd wrth wneud hynny! Rydym ni wrth ein bodd fod Tamsin Dunwoody wedi gwneud amser o fewn amserlen brysur i ddod, oherwydd bod ei chefnogaeth yn helpu cyfleu’r neges o ba mor bwysig yw plannu coed a helpu pobl ifainc i fwynhau byd natur.”
Dywed Tamsin Dunwoody: “Mae coed choetir yn rhan bwysig iawn o’n hamgylchedd naturiol ni. Fe allan nhw ddarparu cynefin i fywyd gwyllt, cynyddu harddwch cefn gwlad, denu pobl i wneud ymarfer iachus yn yr awyr agored, helpu i buro’r aer a gwella’r amgylchedd lleol mewn trefi a dinasoedd ar draws y wlad. Mae Strategaeth yr Amgylchedd Llywodraeth y Cynulliad yn annog pobl i blannu coed a phrysgwydd sydd yn llesol i fyd natur, felly roeddwn i’n awyddus i ddod heddiw, i glywed mwy am ymgyrch Coed i Bawb, cwrdd â’r plant a’r athrawon o Ysgol Gynradd y Rhws a mynd ati i blannu coed gyda nhw.”
I wneud yn siwr fod pob ysgol a grwp ieuenctid yn cael y cyfle i gymryd rhan yn ymgyrch Coed i Bawb, mae Coed Cadw’n cynnig pecynnau am ddim o 30 o goed bach i’w defnyddio i blannu darn bach o berth neu brysglwyn. Fe ddylai ysgolion a grwpiau ieuenctid sydd eisiau manteisio ar y cyfle hwn fynd i wefan:
www.woodland-trust.org.uk/hedge a llenwi’r ffurflen ar-lein. Fe all grwpiau sydd heb gysylltiad â’r Rhyngrwyd ffonio (01524) 222459 i gofrestru am becyn. Mae’r pecynnau hyn yn dod gyda cyfarwyddyd ar sut i blannu a chynnal y coed, yn ogystal â gweithgareddau dwyieithog sy’n cysylltu â’r cwricwlwm cenedlaethol. Gellir is-lwytho’r dogfennau hyn yn syth o’r we wrth gyfeiriad: www.wild-about-woods.org.uk
Dylai’r cyfryngau gysylltu â:
Rory Francis (Swyddog Cyfathrebu) ar 01766 832563 neu 07760 171174
Afallon, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd LL41 3RH
E-bost roryfrancis@woodland-trust.org.uk
neu Swyddfa’r Wasg Coed Cadw yn Lloegr ar 01476 581121, e-mail media@woodland-trust.org.uk
Nodiadau ar gyfer olygyddion:
1. Wythnos Genedlaethol y Coed yw Gwyl Cyngor y Coed i farcio dechrau’r tymor plannu coed. Dyma ddathliad cenedlaethol o goed a choetir. Ar draws y wlad fe fydd yna cyfleoedd llu i blannu coed neu gymryd rhan mewn gweithgareddau, teithiau cerdded, areithiau, caneuon, dweud straeon a gwisgo coed. Mae’n rhedeg o 23 Tachwedd tan 4 Rhagfyr 2005. Am ragor o fanylion ewch i wefan: www.treecouncil.org.uk/projects/ntw.htm
2. Fe fu nifer o aelodau allweddol o’r Cyngor yn bresennol ar y diwrnod, sef: Y Cyng. Mike Harvey, Aelod o’r Cabinet sy’n gyfrifol am Adfywio, Twristiaeth a Hamdden ynghyd â’r Cynghorwyr Tony Hampton, Janice Charles a Emlyn Williams, sydd yn cynrychioli ward Illtyd, sy’n cynnwys Parc Gwledig Porthkerry.
Coed Cadw (The Woodland Trust)
Coed Cadw yw’r elusen fwyaf yn y DU sy’n canolbwyntio ar warchod coedlannau. Mae ganddo 250,000 o aelodau. Mae gan y mudiad bedwar amcan sef: i) sicrhau na chollir rhagor o goedlannau hynafol, ii) adfer a gwella bioamrywiaeth coedlannau, iii) creu rhagor o goedlannau gyda choed brodorol a, iv) cynyddu ymwybyddiaeth pobl am goedlannau, a’u helpu i’w mwynhau.
Sefydlwyd Coed Cadw (neu’r Ymddiriedolaeth Coedlannau gynt) yn 1972. Erbyn hyn mae’n gofalu am dros 1,000 o safleoedd, gydag arwynebedd o 20,000 hectar (50,000 erw). Mae’r rhain yn cynnwys dros 100 o safleoedd yng Nghymru, gydag arwynebedd o 1,580 hectar (3,900 erw). Mae’r safleoedd hyn bron i gyd ar agor i’r cyhoedd. Gellir cael rhagor o newyddion ar wefan www.coed-cadw.org.uk Fe fabwysiadodd Coed Cadw ei enw Cymraeg newydd yn 2000. Hen derm Cymraeg yw “coed cadw” a ddefnyddiwyd yng nghyfreithiau’r canoloesoedd i gyfeirio at goedlannau a warchodwyd yn arbennig.