|
 

Teithiau a chardiau Nadolig

21 Rhagfyr 2006

Ewch am dro, medd Sian Lloyd

...ym mhrydferthwch Coed Gwent dros y ‘Dolig

Dim syniadau am beth i wneud dros y gwyliau ‘Dolig? Mae Siân Lloyd yn gallu cynnig syniad eithaf da – mynd am dro yng Nghoed Gwent, ger Casnewydd.

Dywed Siân Lloyd, sy’n cefnogi Cynllun Ailgylchu Cardiau Nadolig Coed Cadw: “Trwy ailgylchu cardiau Nadolig fe allwch chi ledaenu sirioldeb y tymor a helpu Coed Cadw i amddiffyn yr amgylchedd ar gyfer y cenedlaethau a ddêl. Dewch i fwynhau’n tirwedd unigryw y Nadolig yma. Dewch i Goed Gwent, y lle delfrydol ar gyfer taith gerdded Nadoligaidd gwych.”

Mae Coed Cadw yn rhedeg Cynllun Ailgylchu Cardiau Nadolig bob blwyddyn mewn partneriaeth â Craff am Wastraff. Fe fydd y cynllun yn debyg eleni, gyda biniau casglu yn siopau WHSmith, Tesco a TK Maxx o’r 2ail o Ionawr tan y 31ain.

Fe lwyddodd Coed Cadw i achub Coed Gwent, a hynny gyda chefnogaeth y gymuned leol ac enwogion fel Siân Lloyd. Mae’r goedwig bellach yn cael ei adfer i’w gogoniant brasddeiliog blaenorol, ac mae’n dal ar agor i bawb ymweld â hi. Dyma goedwig hynafol fwyaf Cymru. Plannwyd y coniffer cyntaf yng Nghoed Gwent ym 1880 ac yr oedd y rhan fwyaf o’r coed cynhenid wedi eu cwympo erbyn diwedd yr ail Ryfel Byd. Bu’n ffynhonnell werthfawr o goed yn y ddau Ryfel Byd. Pan ail-blannwyd y goedwig ym 1950au a’r 1960au disodlwyd gogoniant y coed dail llydan gan goniffer estron a ddifrodi llawer o’r cynefin coedwigol oedd ar ôl. Ond mae gwaith yn mynd ymlaen yn awr i adfer y safle. Saif Coed Gwent 5 km i’r dwyrain i Gasnewydd a gellir mynd i’r safle o’r A48. Mae cyfeiriadau manwl ar gael o wefan www.wentwoodforest.org.uk

I gael hyd i’r goedlan agosaf atoch chi, y mae bron pob un ohonyn nhw ar agor i’r cyhoedd am ddim, ewch i www.woodland-trust.org.uk/walks

Dywed Sue Holden, Prif Weithredwraig Coed Cadw: “Yn aml iawn mae yna goedlan llai na milltir o lle rydyn ni’n byw, ond dydyn ni ddim yn sylweddoli eu bod nhw ar agor inni ymweld â nhw. Trwy fynd i’n gwefan ni, mae’n hawdd. Mae gennym dros 1,000 o goedlannau ar draws y DU sydd ar agor i’r cyhoedd, ac mae’r wefan yn cynnwys mapiau i ddangos sut i gael hyd iddyn nhw. Mae taith gerdded mewn coedlan rhewllyd yn ffordd wych i losgi’r pwdin ‘Dolig i ffwrdd!”

LLUNIAU: Mae yna llun o Siân Lloyd ar wefan www.woodland-trust.org.uk/walks Cliciwch ar ei llun hi i’w wneud yn fwy.

Fe all y cyfryngau gysylltu â:
Rory Francis, Swyddog Materion Cyhoeddus a’r Wasg ar gyfer Cymru, ar 01766 832563 neu 07760 171174 roryfrancis@woodland-trust.org.uk Afallon, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd, LL41 3RH

Neu Natalie Clark, Swyddog Cyhoeddusrwydd a Chyfathrebu Corfforaethol, ar 01476 581112, e-bost: natalieclark@woodland-trust.org.uk

Neu Swyddfa’r Wasg Coed Cadw yn Lloegr e-bost media@woodland-trust.org.uk neu ffôn 01476 581121

Nodiadau i olygyddion

Cynllun Ailgylchu Cardiau Nadolig Coed Cadw
Mae’r cardiau sy’n cael eu casglu yn cael eu cludo ystorfeydd WHSmith, Tesco a TK Maxx, lle maen nhw’n cael eu casglu gan eu contractwyr ailgylchu eu hunain (SCA Recycling i WHSmith a a Severnside i TK Maxx a Tesco). Mae’r cardiau yn cael eu sortio a’u cludo i weithfeydd ailgylchu lle maen nhw’n cael eu trin a’u troi i nwyddau newydd fel hancesi papur, papur lluncopïo a chardbord.

Mae Cyngor Sir Nottingham yn cysylltu ag awdurdodau lleol ar ran Coed Cadw, ac yn helpu i gasglu’r credydau ailgylchu o’r awdurdodau hynny sydd wedi cytuno i dalu Coed Cadw am y gwastraff sydd ddim yn gorfod mynd i domennydd ysbwriel oherwydd y cynllun.

Credydau Ailgylchu
Y Credyd Ailgylchu yw’r arian sy’n cael ei arbed gan y Cyngor Sir am BEIDIO â gorfod tirlenwi gwastraff cartref sy’n cael ei ailgylchu. Mae’r Cyngor Sir yn dewis talu’r arbediad yma yn ôl i grwpiau gwirfoddol neu gymunedol sydd yn casglu gwastraff cartref i’w ailgylchu (yn yr achos yma, Cynllun Ailgylchu Cardiau Nadolig Coed Cadw) oherwydd eu bod nhw eisiau hyrwyddo ailgylchu yn yr ardal. Mae gwerth y credyd yn amrywio ar draws siroedd gwahanol oherwydd gwahaniaethau mewn costau gwaredu gwastraff, ac mae’n cael ei dalu ar gyfer pob un tunnell o wastraff cartref sy’n cael ei ailgylchu. Mae gwerth y credyd yn cynyddu bob blwyddyn gyda chwyddiant (yn ôl Mynegai’r Prisiau Manwerthu) ac unrhyw gynyddu yng nghost y Dreth Dirlenwi.

Craff am Wastraff
Ariennir Cynllun ‘Craff am Wastraff’ gan Lywodraeth y Cynulliad i hyrwyddo arbed, ailddefnyddio ac ailgylchu ym mhob rhan o'r gymuned. I ddysgu mwy am sut y gallwch chi helpu, ewch i www.craffamwastraff.org.uk neu ffoniwch linell gymorth 'ailgylchu dros Gymru/recycle for Wales' Cynllun Craff am Wastraff ar 0845 330 5540.

Coed Cadw (The Woodland Trust)
Coed Cadw yw’r elusen fwyaf yn y DU sy’n canolbwyntio ar warchod coedlannau. Mae ganddo 250,000 o aelodau. Mae gan y mudiad bedwar amcan sef: i) sicrhau na chollir rhagor o goedlannau hynafol, ii) adfer a gwella bioamrywiaeth coedlannau, iii) creu rhagor o goedlannau gyda choed brodorol a, iv) cynyddu ymwybyddiaeth pobl am goedlannau, a’u helpu i’w mwynhau.

Sefydlwyd Coed Cadw (neu’r Ymddiriedolaeth Coedlannau gynt) yn 1972. Erbyn hyn mae’n gofalu am dros 1,000 o safleoedd, gydag arwynebedd o 20,000 hectar (50,000 erw). Mae’r rhain yn cynnwys dros 100 o safleoedd yng Nghymru, gydag arwynebedd o 1,580 hectar (3,900 erw). Mae’r safleoedd hyn bron i gyd ar agor i’r cyhoedd. Gellir cael rhagor o newyddion ar wefan www.coed-cadw.org.uk Fe fabwysiadodd Coed Cadw ei enw Cymraeg newydd yn 2000. Hen derm Cymraeg yw “coed cadw” a ddefnyddiwyd yng nghyfreithiau’r Oesoedd Canol i gyfeirio at goedlannau a warchodwyd yn arbennig.