3 Awst 2007
Gweledigaeth Coed Cadw i greu coetir brodorol newydd yng nghadarnle olaf y Tywysogion
Coed Cadw yn prynu Tirgawen, safle trawiadol ym mhrydferthwch Dyffryn Dysynni
Mae Coed Cadw (the Woodland Trust), prif elusen gwarchod coetir y DU, wedi lansio ymgyrch i ariannu pryniant Tirgawen, sef safle 42 hectar (103 acer) yr lethr Dyffryn Dysynni yn nhroedfryniau Cadair Idris. Cynigiwyd y tir ar y farchnad agored trwy dendr anffurfiol ac fe wnaeth Coed Cadw gynnig rhesymol amdano. Fe gafodd y cynnig yma ei dderbyn gan y gwerthwr, ac erbyn hyn mae’r elusen wedi prynu’r safle. Felly, mae Coed Cadw wedi mynd ati ar frys i godi’r arian angenrheidiol i brynu a rheoli’r safle er lles y gymuned leol, ymwelwyr a’r amgylchedd ehangach.
Bwriad Coed Cadw yw creu coetir brodorol newydd i wellhau’r tirlun, gan alluogi pobl leol i ymuno yn y prosiect, ac ychwanegu at yr hyn y mae’r dyffryn yn ei gynnig i gerddwyr ac ymwelwyr eraill. Fe fydd yna broses dylunio manwl, fel bod pobl leol yn cael y cyfle i leisio barn ar ddyfodol y safle. Ac am rai blynyddoedd o leiaf fe fydd Coed Cadw yn debygol o ddal ati i bori rhai darnau o’r safle.
Dywed Eryl Roberts o Goed Cadw: “Mae natur arbennig Tirgawen, gyda’i laswelltir sydd wedi cael ei wella, ond hefyd darnau bychain o goetir brodorol, yn cynnig cyfle prin ar gyfer prosiect adfer y tirwedd fydd nid unig yn gwarchod yr hyn sydd yna’n barod, ond hefyd yn ei wella trwy ail-greu’r gelltydd coediog sydd mor nodweddiadol o lethrau y rhan hon o Ddyffryn Dysynni.”
Mae Coed Cadw yn pwysleisio y bydd unrhyw blannu ar y safle yn digwydd yn araf deg, dros nifer o flynyddoedd, a mewn ymgynghoriad â’r gymuned leol. Mae Coed Cadw yn bwriadu cynnal cyfarfod ymgynghorol cyhoeddus rywbryd tua diwedd mis Medi eleni.
Mae’r elusen yn pwysleisio hefyd, os caiff ei gynlluniau eu gwireddu, y bydd y coetir newydd yn atyniad newydd i bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd, gan helpu i gefnogi’r diwydiant twristiaeth sydd mor bwysig i’r economi lleol. Fel y rhan fwyaf o goedlannau Coed Cadw, fe fydd y goedwig ar agor i bawb ymweld â hi, a hynny am ddim. Ni fydd Tirgawen byth yn denu miloedd o ymwelwyr, ond mae Coed Cadw yn gobeithio y bydd o’n dod yn atyniad lleol poblogaidd i’r gymuned leol, fel y mae Castell y Bere a Chraig yr Aderyn ar hyn o bryd.
Fel prif elusen gwarchod coetir y DU, fe fydd Coed Cadw (the Woodland Trust) yn ceisio codi arian ar gyfer y prosiect o’i aelodau a chefnogwyr ar hyd y DU. Ond mae’n cydnabod fod cefnogaeth leol yn bwysig iawn, hefyd. Felly, mae’n galw ar bawb sy’n cefnogi ei ymgyrch, boed hynny trwy gynnig help llaw, syniadau, arian neu ddim ond cyngor, i gysylltu â nhw ar 01766 832563.
Un person lleol sy’n croesawu ymrwymiad Coed Cadw ymgynghori gyda phobl leol ar eu cynlluniau ar gyfer y safle yw Mr Lewis Williams, Llanllwyda, sy’n rhedeg fferm a safle carafannau symudol bach yn agos i Dirgawen. Mae o’n dweud: “Mae gan Ddyffryn Dysynni lawer i’w gynnig i ymwelwyr yn barod, a gobeithio y bydd cynlluniau Coed Cadw yn ychwanegu at hyn. Dwi’n falch eu bod nhw wedi cytuno i ymgynghori â phobl leol am eu cynlluniau ar gyfer y safle, ac eu bod nhw’n cydnabod manteision dal ati i bori rhai darnau o’r safle am rai blynyddoedd.”
Mae Coed Cadw yn gofalu am dros 1000 o goedlannau ar hyd y DU yn barod, dros 100 ohonyn nhw yng Nghymru. Yn de Meirionnydd, mae’r elusen yn gofalu am Goed Nant Gwernol, sef coedlan hynafol 12 hectar (29 acer) ar ochr ddwyreiniol ceunant trawiadol i’r de-ddwyrain i Abergynolwyn. Fe’i prynwyd gan Goed Cadw yn 1997 ac fe gaiff ei ddefnyddio’n helaeth gan y cyhoedd.
Fe fyddai Coed Cadw yn hoffi dysgu mwy am hanes ac archaeoleg y safle, ac fe fydden ni’n croesawu help o unrhyw un sy’n gallu rhoi rhagor o wybodaeth inni. Rydyn ni’n gwybod, fodd bynnag na fu Dyffryn Dysynni yn wastad mor dawel a heddychlon ag y mae o heddiw. Tair milltir i’r dwyrain saif Castell y Bere, sef castell Cymreig a godwyd, mae’n debyg gan y Tywysog Llywelyn ab Iorwerth tua’r flwyddyn 1221. Dyma’r castell Cymreig olaf i gael ei gipio gan Frenin Lloegr, Edward l, yn 1283, sy’n golygu mai Dyffryn Dysynni oedd cadarnle olaf Tywysogion brodorol Cymru.
A wnewch chi gefnogi'r ymgyrch trwy glicio yma
diwedd
Fe all y cyfryngau gysylltu â:
Rory Francis, Swyddog Materion Cyhoeddus a’r Wasg ar gyfer Cymru, ar 01766 832563 neu 07760 171174 roryfrancis@woodland-trust.org.uk Afallon, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd, LL41 3RH
Neu Swyddfa’r Wasg Coed Cadw yn Lloegr e-bost media@woodland-trust.org.uk neu ffôn 01476 581121
Coed Cadw (The Woodland Trust)
Coed Cadw yw’r elusen fwyaf yn y DU sy’n canolbwyntio ar warchod coedlannau. Mae ganddo 250,000 o aelodau. Mae gan y mudiad bedwar amcan sef: i) sicrhau na chollir rhagor o goedlannau hynafol, ii) adfer a gwella bioamrywiaeth coedlannau, iii) creu rhagor o goedlannau gyda choed brodorol a, iv) cynyddu ymwybyddiaeth pobl am goedlannau, a’u helpu i’w mwynhau.
Sefydlwyd Coed Cadw (neu’r Ymddiriedolaeth Coedlannau gynt) yn 1972. Erbyn hyn mae’n gofalu am dros 1,000 o safleoedd, gydag arwynebedd o 20,000 hectar (50,000 erw). Mae’r rhain yn cynnwys dros 100 o safleoedd yng Nghymru, gydag arwynebedd o 1,580 hectar (3,900 erw). Mae’r safleoedd hyn bron i gyd ar agor i’r cyhoedd. Gellir cael rhagor o newyddion ar wefan www.coed-cadw.org.uk Fe fabwysiadodd Coed Cadw ei enw Cymraeg yn 2000. Hen derm Cymraeg yw “coed cadw” a ddefnyddiwyd yng nghyfreithiau’r Oesoedd Canol i gyfeirio at goedlannau a warchodwyd yn arbennig.