28 Mehefin 2007
Cewch hyd i drysor hynafol - ar eich stepen drws chi!
Arolwg newydd yn awgrym fod tri chwarter pobl Cymru a’r gorllewin ddim yn sylweddoli fod gan Wledydd Prydain fwy o goed hynafol na’r un wlad arall yng ngogledd Ewrop.
Bellach mae’r ras wedi dechrau i gael hyd i goed eraill megis Derwen Pontfadog, Ywen Llangernyw ac Onnen Abaty Talyllychau
Mae trysorau o’r oes a fu yn aros i gael eu darganfod ar hyd a lled Cymru. Rhai sydd yn hŷn hyd yn oed na’n cestyll ac eglwysi cadeiriol ni. Beth ydyn nhw? Coed hynafol, sy’n gallu byw hyd am 5000 o flynyddoedd, sy’n golygu eu bod nhw ymhlith pethau byw hynaf y blaned. Mae gan Wledydd Prydain fwy o’r trysorau hyn na’r un wlad arall yng ngogledd Ewrop, ond mae’n syndod nad ydym yn gwybod lle maen nhw! Mae Coed Cadw (the Woodland Trust) yn gofyn i bawb ymuno yn yr Helfa Coed Hynafol, gan gofnodi’r coed maen nhw cael hyd iddyn nhw a’r straeon sy’n gysylltiedig â nhw ar-lein wrth www.helfacoedhynafol.org.uk Ymhlith y rhai sy’n edrych am goed yn barod mae Clive Anderson, Bill Bryson a Nell McAndrew. Rupert the Bear, y gwnaed ei luniau am flynyddoedd gan Alfred Bestall ym Meddgelert, sy’n arwain yr helfa ymhlith plant iau. Mae grwpiau lleol ym ymuno yn y prosiect ar hyd a lled y DU.
Fe all unrhyw un gymryd rhan, boed yn blentyn neu’n oedolyn, trwy gael hyd i ddarn o hanes yn eu parciau a gerddi a helpu Coed Cadw i greu’r map rhywng-weithiol cyntaf o’n coed hynafol ni, fel cam pwysig tuag at warchod y trysorau hyn. Mae’n hawdd gwneud, hefyd. Y cyfan sydd eisiau ei wneud yw cael hyd i goeden a’i chofleidio wedyn, i weld pa mor dew y mae hi! Tewaf y goeden, hynaf y bydd hi.
Mae arolwg newydd gan Geod Cadw yn dangos fod y cyhoedd yn cefnogi coed hynafol. Dywed 95% o bobl Cymru a gorllewin Lloegr ei bod yn bwysig ein bod ni’n sicrhau dyfodol coed hynafol, fel yr ydyn ni’n sicrhau dyfodol henebion a godwyd gan ddynolryw. Nid yw 75% yn gwybod fod gan y DU fwy o goed hynafol na’r un wlad arall yng ngogledd Ewrop, ond dywed 89% ei bod yn bwysig ein bod yn gwybod lle maen nhw. Mae’r gefnogaeth hon yn galonogol iawn gan fod coed hynafol yn hanfodol i’n tirwedd ni, ein hanes ni a’n byd natur ni.
“Rydyn ni’n gofyn i bobl edrych allan am goed sy’n arbennig o hen, tew a chygnog”, medd Llywydd Coed Cadw, Clive Anderson, “felly mae’n amlwg mai fi ydi’r person i gael y neges drosodd. Rydym yn edrych am goed, er enghraifft derwen, sydd mor fawr fel y byddai angen tri o bobl i’w chofleidio, bob un yn cyffwrdd â bysedd y ddau berson arall. Hwyrach eich bod chi’n mynd heibio coeden fel honno bob dydd. Mae’n debyg fod ganddi stori i’w hadrodd. Beth bynnag, rydyn ni am i chi fynd ar-lein a’i chofnodi.”
Dywed Nell McAndrew, sy’n ymuno â Rupert Bear i arwain y gwaith chwilio gan blant ifanc iawn: “Fe gewch chi hyd i bob dim sydd ei angen i chwilio am goed pan ewch chi i wefan www.helfacoedhynafol.org.uk Mae’r wefan yma’n dangos lle mae’r coed hynafol, a sut y gellir eu mesur nhw, yn ogystal â’r cyfle i gofnodi’r coed y cewch hyd iddyn nhw. Ewch i’r wefan hudol, sy’n cynnwys gweithgareddau i chi eu darganfod.”
Eglura Sue Holden, Prif-weithredwraig Coed Cadw: “Mae coed o rai rywogaethau yn dod yn hynafol yn gynt na rhai eraill, ond fel arfer, fe fydd derwen hynafol o leiaf 400 mlwydd oed. Mae llawer ohonyn nhw’n hŷn o lawer ac fe all ywen fyw am filoedd o flynyddoedd. Rydyn ni’n credu y gall fod yna hanner miliwn o goed hynafol i gael hyd iddyn nhw.”
Mae Wiliam l, Y Concwerwr, yn gyfrifol am lawer o’r coed hynafol sy’n bodoli yn y DU oherwydd y fforestydd hela brenhinol a grëwyd ar ôl 1066. Mae hen goed tew yn gyswllt uniongyrchol i’n diwylliant, hanes ac etifeddiaeth gan fod y coed sydd gennym yn awr wedi darparu pren ar gyfer digwyddiadau pwysig ein hanes. Defnyddiwyd 6000 o goed derw i godi llong Nelson, y Victory. Fe ddefnyddiodd saethwyr o Gymry bwâu yw ac ynn (llawer ohonyn nhw’n dod o fynwentydd) i helpu Harri V i ennill brwydr Agincourt.
Mae coed hynafol yn gartref i filoedd o rywogaethau o blanhigion ac anifeiliaid, gan gynnwys llawer o rywogaethau sy ddim yn byw mewn llefydd eraill. Wrth iddyn nhw ddod yn hŷn, mae coed yn datblygu tyllau a chorneli ac mae darnau ohonyn nhw’n pydru, gan ddarparu cartrefi i lawer o drychfilod. Mae grwpiau goed hynafol sy’n tyfu gyda’i gilydd yn pwysicach byth gan bod y tyllau ynddyn creu cymuned anhygoel o fywyd gwyllt.
Prosiect pum mlynedd yw’r Helfa Coed Hynafol sy’n cael ei arwain gan Goed Cadw mewn partneriaeth gyda’r Fforwm Coed Hynafol a Chofrestr Coed Ynysoedd Prydain. Mae’n cael ei ariannu gan yr Esmee Fairbairn Foundation, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Treftadaeth Naturiol yr Alban, ac mae’n cael ei gefnogi gan y Comisiwn Coedwigaeth. Fe fydd llawer o bartneriaid lleol yn cydweithio gyda’r prosiect ar hyd a lled y DU. Yn ymuno â’r Helfa y mae Cyngor y Coed, y Caravan Club, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, y Comisiwn Coedwigaeth, a’r Gwasanaeth Carchardai, dros 100 o grwpiau lleol ynghyd a llawer o dirfeddianwyr.
diwedd
Fe all y cyfryngau gysylltu â:
Rory Francis, Swyddog Materion Cyhoeddus a’r Wasg ar gyfer Cymru, ar 01766 832563 neu 07760 171174 roryfrancis@woodland-trust.org.uk Afallon, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd, LL41 3RH
Neu Swyddfa’r Wasg Coed Cadw yn Lloegr e-bost media@woodland-trust.org.uk neu ffôn 01476 581121
Nodiadau i olygyddion
Ymhlith coed hynafol mwyaf nodweddiadol Cymru y mae:
Derwen Pontfadog, ym Mhontfadog ger y Waun, Wrecsam
Dyma dderwen ddigoes fwyaf Cymru. Cylchfesur y goeden yw 42 troedfedd 4 modfedd (12.9m). Roedd yn gymaint o eicon hyd yn oed yn y 12fed ganrif fel yr ymgasglodd byddin Owain Gwynedd o’i chwmpas a mynd ymlaen i guro Harri ll ym mrwydr Crogan ddwy filltir i ffwrdd.
Ywen Llangernwy, Llangernyw, Conwy
Credir fod yr ywen hynafol ym mynwent Eglwys Sant Digain, Llangernyw, dros 3,000 oed, sy’n golygu y byddai’r goeden yn hynafol hyd yn oed pan gyrhaeddodd y Rhufeiniaid Gymru. Mae’n debyg mai’r goeden hon yw’r peth byw hynaf yng Nghymru.
Onnen Abaty Talyllychau, Sir Gaerfyrddin
Mae’n debyg mai’r goeden hon yw’r onnen hynaf ym Mhrydain. Mae’n sefyll mewn perth o fewn tir Abaty prydferth Talyllychau sydd yng ngofal Cadw. Mae’r bôn mor gygnog fel ei bod yn anodd ei fesur. Mae’n debyg fod y cylchfesur tua 36 troedfedd (11m).
Ywen Betws Newydd, Sir Drefynwy
Mae yna dair hen ywen ym mynwent Betws Newydd, ond yr un fwyaf yw’r un mwyaf nodweddiadol. Fel y rhan fwyaf o goed yw o’i hoed, mae’r goeden yn gwbl wag.
Ewch i www.helfacoedhynafol.org.uk
- i gael hyd i goeden hynafol yn agos i lle rydych chi’n byw
- i gofnodi coeden hynafol neu ychwanegu straeon a lluniau o’r goeden i’r blogiau
- i ddilyn y llwybr hud i Barth Rupert the Bear ar y wefan, ar gyfer plant
CANLYNIADAU’R AROLWG – Beth y mae pobl yn feddwl am goed hynafol?
O sampl cynrychioladol o dros 1,000 o oedolion dros y DU:
- dywedodd 92% ei bod yn bwysig i sicrhau dyfodol coed hynafol, fel rydyn ni’n wneud ar gyfer henebion a wnaed gan ddynolryw
- dywedodd 87% ei bod yn bwysig i adnabod lle mae coed hynafol o fewn y tirwedd
- dywedodd 94% fod coed hynafol yn bwysig i fyd natur
- dywedodd 93% eu bod nhw’n dda i’r amgylchedd
- dywedodd 88% eu bod yn rhan o’n hetifeddiaeth
- dywedodd 80% eu bod nhw ddim yn gwybod fod gan y DU fwy o goed hynafol na’r un wlad arall yng ngogledd Ewrop
Roedd yr arolwg yn cynnwys ffigyrau ar gyfer rhanbarthau gwahanol o fewn y DU, sydd wedi cael eu dyfynnu yn y datganiad uchod.
CEFNOGWYR ENWOG:
BILL BRYSON
Ganwyd Bill yn Des Moines, Iowa yn 1951. Fe ddaeth i’r DU yn 1973, ac mae e wedi ysgrifennu ar gyfer y Times a’r Independent am lawer o flynyddoedd, gan ysgrifennu erthyglau teithio i gynyddu ei incwm. Mae e wedi bod yn gefnogwr i Goed Cadw ers 30 o flynyddoedd. Mae llyfrau Bill yn cynnwys “The Lost Continent” a “Notes from a Big Country”. Ei lyfr diweddaraf yw “A Short History of Nearly Everything”. Ym mis Rhagfyr 2006, enwyd Bill Bryson fel Swyddog y Most Excellent Order of the British Empire am ei gyfraniad at lenyddiaeth.
CLIVE ANDERSON
Ganwyd Clive Anderson yn Stanmore, Middlesex ym 1952. Ar ôl astudio’r gyfraith yng Mhrifysgol Caergaint, lle roedd e hefyd yn llywydd ar y grŵp Footlights, fe weithiodd e fel bargyfreithiwr yn Llundain am 15 mlynedd. Bellach mae e’n wyneb poblogaidd ym myd darlledu. Yn rhinwedd ei swydd fel Llywydd Coed Cadw mae’n cefnogi ac yn cyhoeddi prosiectau coetir ar hyd a lled y DU.
NELL McANDREW
Swydd Nell yw prif chwilwraig am hen goed tew, ar y cyd â Rupert the Bear. Am gyfweliad gyda, neu luniau o, Nell McAndrew a Rupert the Bear yn cofleidio coed, cysylltwch â Kat Taylor neu Laura McTurk yn Taylor Herring PR - 020 8206 5151 / laura.mcturk@taylorherring.com
RUPERT BEAR
Mae Rupert Bear yn arwain yr helfa am hen goed tew ymhlith plant cyn oed ysgol a’u teuluoedd. Fe fydd nifer y “cofleidiadau arthog” yw cylchfesur coeden yn dangos ei oed. Tewaf y goeden, mwyaf ei hoed. Mae Rupert yn gadwraethwr brwdfrydig, ac fe fydd e’n cael llawer o anturiaethau hudol gyda’i ffrindiau yn eu tŷ mewn coeden, sydd yn y goeden hynaf a dewach yn Nutwood. Sbïwch allan am Rupert Bear ar raglen Milkshake ar Sianel Pump bob dydd. Dilynwch yr hud a lledrith i logio ymlaen i www.rupertbear.com i gofrestru eich “cofleidiad arthog” a chael pecyn meithrin cyn-ysgol sydd yn llawn gweithgareddau a theithiau natur. Fe all plant greu anturiaethau eu hunain yn Nutwood gyda chasgliad o deganau fydd ar gael o’r siopau o fis Medi ymlaen.
Coed Cadw (The Woodland Trust)
Coed Cadw yw’r elusen fwyaf yn y DU sy’n canolbwyntio ar warchod coedlannau. Mae ganddo 250,000 o aelodau. Mae gan y mudiad bedwar amcan sef: i) sicrhau na chollir rhagor o goedlannau hynafol, ii) adfer a gwella bioamrywiaeth coedlannau, iii) creu rhagor o goedlannau gyda choed brodorol a, iv) cynyddu ymwybyddiaeth pobl am goedlannau, a’u helpu i’w mwynhau.
Sefydlwyd Coed Cadw (neu’r Ymddiriedolaeth Coedlannau gynt) yn 1972. Erbyn hyn mae’n gofalu am dros 1,000 o safleoedd, gydag arwynebedd o 20,000 hectar (50,000 erw). Mae’r rhain yn cynnwys dros 100 o safleoedd yng Nghymru, gydag arwynebedd o 1,580 hectar (3,900 erw). Mae’r safleoedd hyn bron i gyd ar agor i’r cyhoedd. Gellir cael rhagor o newyddion ar wefan www.coed-cadw.org.uk Fe fabwysiadodd Coed Cadw ei enw Cymraeg yn 2000. Hen derm Cymraeg yw “coed cadw” a ddefnyddiwyd yng nghyfreithiau’r Oesoedd Canol i gyfeirio at goedlannau a warchodwyd yn arbennig.
PARTNERIAID A CHEFNOGWYR
FFORWM Y COED HYNAFOL
Nod y Fforwm Coed Hynafol yw sicrhau dyfodol tymor hir i goed hynafol trwy alw am ddim colledion pellach o goed hynafol, rheolaeth dda o goed hynafol a datblygu dilyniant o goed hynafol y dyfodol. Yn ogystal â hynny mae’r Fforwm ynghyd â’i aelodau yn ceisio codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth am werth a phwysigrwydd coed hynafol.
ESMEE FAIRBAIRN FOUNDATION
Mae Esmée Fairbairn Foundation yn un o’r sefydliadau annibynnol mwyaf sy’n gwneud grantiau yn y DU. Mae’r rhoi grantiau mewn pedwar maes: Celf ac Etifeddiaeth, Addysg, Yr Amgylchedd a Newid Cymdiethas: Menter ac Annibyniaeth. Mae’r sefydliad yn lansio mentrau ei hun hefyd, lle mae’n credu fod yna gyfleoedd sydd heb dderbyn sylw. Yn 2007 mae’n disgwyl gwneud grantiau o £29 ar draws y DU. Am ragor o wybodaeth a fyddech cystal â mynd at www.esmeefairbairn.org.uk
CRONFA DREFTADAETH Y LOTERI
Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn galluogi cymunedau i ddathlu, gwarchod a dysgu mwy am eu diwylliant amrywiol. Mae’n ariannu’r amrediad llawn o dreftadaeth – gan gynnwys adeiladau, amgueddfeydd, treftadaeth naturiol a threftadaeth traddodiadol a iaith.
Ers 1994 mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri wedi dyrannu mwy na £3.6 biliwn i dros 22,500 o brosiectau ar draws Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon, gan helpu i agor ein treftadaeth i bawb ei fwynhau.
COFRESTR COED YNYSOEDD PRYDAIN
Mae’r gofrestr goed yn elusen gofrestredig sy’n casglu ac yn diweddaru bas data o goed nodweddiadol ar hyd a lled Prydain ac Iwerddon. Mae’n darparu gwybodaeth am faint a thwf coed sydd ddim ar gael o’r un ffynhonnell arall. Mae hyn yn cynnwys cofnodion hanesyddol o lyfrau sy’n dyddio yn ôl dros 200 o flynyddoedd. Mae’r Gofrestr Goed yn trefnu rhwydwaith o dros 50 o bobl sy’n mesur coed, yn diweddaru cofnodion hanesyddol ac yn darganfod dros 2,000 o goed newydd sydd yn werth eu cynnwys bob blwyddyn. Eu noddwr nhw yw Ei Fawrhydi Tywysog Cymru. Dysgwch fwy o www.treeregister.org