16 Mehefin 2006
Dewch i leisio barn am ddyfodol Coed Gwent
Sesiynau galw i fewn i’w cynnal yn Neuadd Bentref Llanfaches ar y 26 Mehefin a Neuadd Bentref Earlswood ar y 2 Gorffennaf, y ddwy sesiwn o 2 o’r gloch tan 7 o’r gloch y prynhawn - Croeso i bawb
Mae Coed Cadw (the Woodland Trust), prif elusen gwarchod coetir y DU, yn gwahodd pobl leol i ddod i leisio barn ar ddyfodol Coed Gwent mewn dwy sesiwn galw i fewn dros y pythefnos nesaf.
Gwahoddir pobl leol i gyfarfodydd ymgynghori yn Neuadd Bentref Llanfaches ar y 26 Mehefin ac Earlswood ar y 3 Gorffennaf. Mae croeso i bawb alw i fewn i’r naill sesiwn neu’r llall ar unrhyw adeg rhwng 2 a 7 o’r gloch y prynhawn. Neu, mae croeso i bobl ysgrifennu at Goed Cadw i leisio barn a sut y dylid rheoli’r safle. Y cyfeiriad yw: Coed Cadw (the Woodland Trust), Uned B, Yr Hen Orsaf, Llanidloes, Powys, SY18 6EB neu e-bostl jonwinder@woodland-trust.org.uk Fe fydd Coed Cadw y defnyddio’r ymatebion i gyd wrth lunio ei Gynllun Rheolaeth ar gyfer Coed Gwent, a ddylai gael ei gyhoeddi yn 2007.
Fe gwblhaodd Coed Cadw bryniant 352 hectar (870 erw) o Goed Gwent ym mis Ionawr eleni yn dilyn ymgyrch llwyddiannus iawn i godi’r arian angenrheidiol. Bellach mae Jon Winder, un o swyddogion coetir mwyaf profiadol y mudiad yn gyfrifol am reoli’r safle, ac mae e wedi dechrau llunio cynlluniau.
Un o’r rhai sy’n debyg o gymryd rhan yn yr ymgynghoriad yw John Nettleship o Gaerwent, sydd wedi ymweld â Choed Gwent yn gyson ers dros ddeng mlynedd ar hugain. Mae’n dweud: “Oherwydd ei leoliad, fe allai Coed Cadw ragori ar Fforest Dean am ei harddwch naturiol. Mae yna goed brodorol gyda charpedi o glychau’r gog oddi tanynt. Gobeithio y bydd ein blodyn cenedlaethol, y genhinen bedr wyllt, yn gallu ymledu yn ôl o’r ychydig o lecynnau lle mae hi wedi llwyddo i oroesi hyd yn hyn.”
Mae’n ychwanegu: “Mae mynediad yn bwnc sydd eisiau ei drafod hefyd. Mae angen agor llwybrau marchogaeth, gobeithio gan gadw cerddwyr a cheffylau ar wahân. Tybed a oes modd stopio criw y cerbydau pedair olwyn rhag malu pob llwybr?”
Dywed Jon Winder o Goed Cadw: “Mae Coed Cadw’n cydnabod mae’r prif sialens yn awr yw adfer ein darn ni o Goed Gwent i’w ogoniant brasddeiliog blaenorol, a’i reoli er lles pawb. Dwi’n awyddus i glywed oddi wrth unrhyw un sy’n gallu helpu gydag unrhyw agwedd ar y gwaith o edrych ar ôl Coed Gwent, er enghraifft trwy drefnu digwyddiadau neu grwpiau gwaith, arwain teithiau cerdded, bod yn bwynt cyswllt gyda grŵp lleol neu hwyrach cerdded ar hyd rhyw lwybr yn rheolaidd ac adrodd yn ôl os bydd problem yn codi. Os ydych chi’n meddwl y gallwch chi helpu, a wnewch chi gysylltu â fi trwy e-bost neu lythyr.” 2
Mae Coed Cadw’n dechrau llunio ei gynllunio ar gyfer y safle, ac mae rhywfaint o waith adfer wedi dechrau’n barod. Ym mis Chwefror, fe ymwelodd Siân Lloyd, y meteorolegydd a’r bersonoliaeth teledu, â’r safle i ymuno â phlant lleol wrth blannu coed newydd brodorol yng Nghoed Gwent. Roedd hyn yn rhan o wythnos lawn o blannu. Gymerodd tua 300 o blant ran, o ddeg ysgol wahanol, fel rhan o Goed i Bawb (1), sef ymgyrch uchelgeisiol plannu coed i blant, sydd â’i fryd ar blannu un goeden ar gyfer pob un plentyn yn y DU dros gyfnod o bum mlynedd, a sicrhau fod o leiaf miliwn o blant yn cymryd rhan yn y gwaith yma.
Ym mis Awst, mae Coed Cadw yn gobeithio dechrau teneuo rhai o’r coed conwydd, i adael mwy o olau i lawr y goedwig, i amddiffyn y blodau hynny sy’n gysylltiedig â choetir hynafol. Yn yr hydref fe fydd Coed Cadw’n trefnu dau seminar arbennig i ddod ag arbenigwyr a grwpiau gwahanol at ei gilydd i roi cyngor ar sut y dylid rheoli’r safle. Fe fydd yna Seminar Rheolaeth a Seminar Mynediad ym misoedd Medi a Hydref. Nid digwyddiadau cyhoeddus mo’r rhain, ond os ydy pobl yn teimlo fod ganddyn nhw wybodaeth arbenigol, neu os ydyn nhw’n cynrychioli grŵp a ddylai fod yn bresennol, mae croeso iddyn nhw gysylltu â Jon Winder (2).
I brynu’r safle hwn, sydd yn 352 hectar (870 erw) o faint, a dechrau’r gwaith adfer, roedd rhaid i Goed Cadw godi o leiaf £1.5 miliwn. Mae Coed Cadw eisiau diolch o galon i bawb a gefnogodd yr ymgyrch, gan gynnwys The Tubney Charitable Trust, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, the Hickinbotham Charitable Trust, the Oak Foundation, a nifer o ymddiriedolaethau eraill ac yn wir yr holl unigolion a gefnogodd yr ymgyrch. Mae Coed Cadw yn ddiolchgar hefyd i’r South Wales Echo am helpu i gyhoeddi’r ymgyrch.
Am ragor o wybodaeth ewch i: www.wentwoodforest.org.uk
(diwedd)
Fe all y cyfryngau gysylltu â:
Rory Francis, Swyddog Materion Cyhoeddus a’r Wasg ar gyfer Cymru, ar 01766 171174 neu 07760 171174 roryfrancis@woodland-trust.org.uk Afallon, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd, LL41 3RH
Neu Jon Winder ar 01600 719281
neu Swyddfa’r Wasg Coed Cadw yn Lloegr ar 01476 581121, e-bost
media@woodland-trust.org.uk
Nodiadau i olygyddion
1. Coed i Bawb yw’r ymgyrch plannu coed i blant mwyaf uchelgeisiol a welwyd erioed yn y DU. Y bwriad yn ysbrydoli cenhedlaeth newydd i ailgysylltu â byd natur. Mae Coed i Bawb yn anelu at roi’r cyfle i o leiaf miliwn o blant i fynd i’r afael â byd natur a chael hwyl yn plannu coed. Gweledigaeth yr ymgyrch yw y dylai pob plentyn gael y cyfle i blannu coed. Fel rhan o’r ymgyrch, plannir 12 miliwn o goed brodorol dros gyfnod i bum mlynedd – sef un ar gyfer pob plentyn o dan 16 oed.
2. Y cyfeiriad yw the Woodland Trust (Coed Cadw), Uned B, Yr Hen Orsaf, Llanidloes, Powys, SY18 6EB neu e-bost jonwinder@woodland-trust.org.uk
Coed Cadw (The Woodland Trust)
Coed Cadw yw’r elusen fwyaf yn y DU sy’n canolbwyntio ar warchod coedlannau. Mae ganddo 250,000 o aelodau. Mae gan y mudiad bedwar amcan sef: i) sicrhau na chollir rhagor o goedlannau hynafol, ii) adfer a gwella bioamrywiaeth coedlannau, iii) creu rhagor o goedlannau gyda choed brodorol a, iv) cynyddu ymwybyddiaeth pobl am goedlannau, a’u helpu i’w mwynhau.
Sefydlwyd Coed Cadw (neu’r Ymddiriedolaeth Coedlannau gynt) yn 1972. Erbyn hyn mae’n gofalu am dros 1,000 o safleoedd, gydag arwynebedd o 20,000 hectar (50,000 erw). Mae’r rhain yn cynnwys dros 100 o safleoedd yng Nghymru, gydag arwynebedd o 1,580 hectar (3,900 erw). Mae’r safleoedd hyn bron i gyd ar agor i’r cyhoedd. Gellir cael rhagor o newyddion ar wefan www.coed-cadw.org.uk Fe fabwysiadodd Coed Cadw ei enw Cymraeg newydd yn 2000. Hen derm Cymraeg yw “coed cadw” a ddefnyddiwyd yng nghyfreithiau’r canoloesoedd i gyfeirio at goedlannau a warchodwyd yn arbennig.