14 Medi 2007
'Dewch i'n helpu ni i ddylunio'n coedlan newydd ni yn nhroedfryniau Cadair Idris', medd Coed Cadw
Cyfarfod Cyhoeddus Tirgawen, 5.45 Nos Fawrth yr 25 Medi, yn Neuadd Bentref Llanegryn
Mae pobl Llanegryn a’r cyffiniau yn cael gwahoddiad i ddod i helpu Coed Cadw (the Woodland Trust), prif elusen gwarchod coetir y DU, i ddylunio ei goedlan frodorol newydd yn Nhirgawen yn Nyffryn Dysynni.
Mae’r cyfarfod yn dechrau am 5.45 nos Fawrth yr 25 Medi yn Neuadd Bentref Llanegryn. Mae’n cynnwys ymweliad â Thirgawen ynghyd â thaith gerdded fer o gwmpas y safle. Mae Coed Cadw yn darparu trafnidiaeth ar gyfer hyn. Does DIM rhaid neilltuo lle ymlaen llaw, ond fe fuasai’n helpu’r elusen os gallai’r rhai sy’n gwybod ei bod nhw eisiau dod roi gwybod iddyn nhw ymlaen llaw trwy e-bostio erylroberts@woodland-trust.org.uk neu roi caniad iddo ar (01248) 601154. Os ydy rhywrai eisiau mynychu’r cyfarfod, ond yn methu dod ar y daith, mae croeso iddyn nhw ddod i Neuadd Llanegryn am 7 o’r gloch.
Mae Coed Cadw’n annog pawb sy’n dod ar y daith i wisgo esgidiau cryf pwrpasol a dillad glaw os bydd y tywydd yn wlyb.
Fe gyhoeddodd Coed Cadw ei gynlluniau i greu coetir newydd yn Nhirgawen y mis diwethaf, ac mae llawer o bobl leol wedi cysylltu â’r mudiad yn barod i fynegi eu cefnogaeth. Mae yna wefan ddwyieithog arbennig i bobl cefnogi’r ymgyrch, sef: www.woodland-trust.org.uk/tirgawen
Mae creu coetir newydd yn un o brif flaenoriaethau Coed Cadw. Felly, mae’r elusen yn gobeithio ariannu’r prosiect trwy gyfraniadau gan aelodau a chefnogwyr, trwy ddenu cefnogaeth o gwmnïau, trwy grantiau creu coetir a dulliau eraill.
Ond mae’n sylweddoli fod cefnogaeth leol yn arbennig o bwysig hefyd. Er mai cost lawn y prosiect yw £800,000, sydd yn cynnwys holl gost sefydlu’r goedlan newydd ynghyd â’r costau rheoli am ei flynyddoedd cyntaf, mae’r elusen wedi lansio apêl lleol sydd â’i fryd ar godi £50,000 tuag at y gost lawn. Yn y dull yma, mae cyfraniadau gweddol fach o unigolion yn gallu rhyddhau symiau mwy, a hynny trwy ddarparu arian cyfatebol ar gyfer ceisiadau grant o gyrff eraill. Felly, mae’n debyg fod pob punt a sy’n cael ei roi gan y gymuned leol yn a chefnogwyr Coed Cadw yn helpu i godi £16 ychwanegol.
Fe fydd y cyfarfod yn trafod sut y bydd Tirgawen yn cael ei reoli fel coedlan: lle yn union y bydd coed yn cael eu plannu, sut y rheolir mynediad o fewn y safle, sut y caiff ei hysbysebu, a hyd yn oed enw y goedlan newydd.
Mae gwaith cynllunio ar y goedlan newydd yn cael ei arwain gan Eryl Roberts o Goed Cadw. Mae’n dweud: “Mae Dyffryn Dysynni yn ardal arbennig iawn yn barod. Ond mae Tirgawen hefyd yn cynnig cyfle prin ar gyfer prosiect adfer tirwedd fydd nid yn unig yn gwarchod yr hyn sydd yna eisoes, ond hefyd ei wella a hynny trwy ail-greu’r gelltydd coediog sydd mor nodweddiadol o ddarnau o Ddyffryn Dysynni. Dan ni’n gobeithio gwneud hyn ar y cyd â’r gymuned leol a rhoi cyfle i bobl leol nid yn unig i blannu rhai o’r coed, ond hefyd i helpu cynllunio’r prosiect. Felly, dan ni’n edrych am syniadau ac awgrymiadau o bobl leol, i wneud hyn siŵr fod y plannu newydd yn cael ei gynllunio mor dda ag sy’n bosibl.”
Fe all y cyfryngau gysylltu â:
Rory Francis, Swyddog Materion Cyhoeddus a’r Wasg ar gyfer Cymru, ar 01766 832563 neu 07760 171174 roryfrancis@woodland-trust.org.uk Afallon, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd, LL41 3RH
Neu Eryl Roberts ar (01248) 601154
Neu Swyddfa’r Wasg Coed Cadw yn Lloegr e-bost media@woodland-trust.org.uk neu ffôn 01476 581121
Coed Cadw (The Woodland Trust)
Coed Cadw yw’r elusen fwyaf yn y DU sy’n canolbwyntio ar warchod coedlannau. Mae ganddo 250,000 o aelodau. Mae gan y mudiad bedwar amcan sef: i) sicrhau na chollir rhagor o goedlannau hynafol, ii) adfer a gwella bioamrywiaeth coedlannau, iii) creu rhagor o goedlannau gyda choed brodorol a, iv) cynyddu ymwybyddiaeth pobl am goedlannau, a’u helpu i’w mwynhau.
Sefydlwyd Coed Cadw (neu’r Ymddiriedolaeth Coedlannau gynt) yn 1972. Erbyn hyn mae’n gofalu am dros 1,000 o safleoedd, gydag arwynebedd o 20,000 hectar (50,000 erw). Mae’r rhain yn cynnwys dros 100 o safleoedd yng Nghymru, gydag arwynebedd o 1,580 hectar (3,900 erw). Mae’r safleoedd hyn bron i gyd ar agor i’r cyhoedd. Gellir cael rhagor o newyddion ar wefan www.coed-cadw.org.uk Fe fabwysiadodd Coed Cadw ei enw Cymraeg yn 2000. Hen derm Cymraeg yw “coed cadw” a ddefnyddiwyd yng nghyfreithiau’r Oesoedd Canol i gyfeirio at goedlannau a warchodwyd yn arbennig.