|
 

Ymgyrchwr coetir diymhongar

20 Tachwedd 2006

Ymgyrchydd coetir diymhongar yn ennill gwobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn

Cydnabyddiaeth ar gyfer blynyddoedd o waith yn sicrhau ac yn gofalu am goetir cymunedol

Mae Don Jones o Gegidfa, Powys, wedi ennill Gwobr Gwirfoddolwyr y Flwyddyn (1) am ei waith yn helpu diogelu Granllyn Pool, ac wedyn gofalu amdano fe, fel coetir cymunedol.

Rhannir y Wobr gyda Liz Harvey, sydd wedi helpu Don gyda’i waith caled yn Granllyn Pool dros y blynyddoedd.

Mae Granllyn Pool yn agos i ganol pentref Cegidfa. Fe’i prynwyd gan Goed Cadw (the Woodland Trust) yn 1998 fel rhan o brosiect llwyddiannus Coedlannau i’ch Bro, i greu 250 o goedlannau cymunedol newydd ar draws y DU. Ond y dyn lleol Don Jones, yn gweithio y tu ôl i’r llenni, a berswadiodd y tirfeddiannwr blaenorol i werthu’r safle i Goed Cadw.
A hyd yn oed ar ôl i Goed Cadw gytuno, yn amodol, i brynu’r safle, roedd Don a Liz yn weithgar iawn yn annog y gymuned leol i gefnogi’r apêl i godi arian tuag at y pryniant.

A nid dyna’r cyfan. Gan mai porfa wedi’i gwella oedd y tir, mae’r glaswellt a’r chwyn yn tyfu’n gyflym iawn ac mae’n anodd i gontractwyr Coed Cadw ddal i fyny gyda nhw. Fe safodd Don a Liz yn y bwlch trwy dorri’r gwair ar y llwybrau bob wythnos er mwyn sicrhau fod y goedlan newydd yn dal i fod o fewn cyrraedd pawb.

Dywed Don Jones: “Roedd yn bleser cymryd rhan yng ngwaith Coed Cadw yn Granllyn Pool, ac mae’n dda gennyf feddwl ein bod ni wedi gwneud gwahaniaeth i’r amgylchedd lleol. Ond ymdrech ar y cyd oedd hyn. Dwi wrth ‘y modd fy mod yn rhannu’r wobr gyda Liz Harvey, a dwi eisiau talu teyrnged hefyd i Roy Edwards am helpu i sicrhau Granllyn Pool fel coedlan gymunedol.

Dywed Anna Judson, milfeddyg lleol a weithiodd gyda Don ar yr apêl i godi arian i brynu’r safle: “Fe ymunais i â’r ymgyrch yn fuan ar ôl iddi hi ddechrau, a pherswadio Don i gymryd rhan mewn nifer o ystrywiau codi arian, a achosodd dipyn o ddifyrrwch iddo fo, dwi’n meddwl! Fe ddysgais i fod brwdfrydedd yn gallu mynd â chi’n bell. Os ‘newch chi ddim gofyn, ‘newch chi ddim llwyddo. Fe gafodd Don a fi lawer o hwyl ac roeddwn i’n mwynhau ei gwmni’n fawr. Mae o wedi gwneud llawer iawn i’r gymuned leol dros y blynyddoedd mewn sawl ffordd – a hynny heb i lawer o bobl sylweddoli hyd yn oed.”

Mae rhagor o fanylion am wirfoddoli gyda Choed Cadw ar gael o wefan Gymraeg Coed Cadw

Er gwaethaf ei enw, coedlan gymunedol yw Granllyn Pool, er bod yna pwll dwr bas ar y safle. Mae’r pwll yn cynnig cynefin i boblogaeth o’r fadfall ddŵr gribog (2) sydd yn arwyddocaol ar y lefel cenedlaethol, ac oherwydd hynny mae’r tir wedi’i ddynodi fel Ardal o Gadwraeth Arbennig o dan gyfraith Ewropeaidd. Mae’r safle yn cynnwys tir o amgylch y pwll dŵr y plannwyd y rhan fwyaf ohono gyda choed brasddeiliog ym mis Tachwedd 1999. Yn 2004, yn dilyn ymgyrch codi arian llwyddiannus gan y gymuned leol, fe brynodd Coed Cadw estyniad 2 ha (5.1 erw) i’r safle, er mwyn cynyddu ei werth i fyd natur a fel caffaeliad cymunedol.

Fel bron pob coedlan Coed Cadw, mae Granllyn Pool ar agor i’r cyhoedd ymweld â hi ar unrhyw adeg ac am ddim. Mae ganddo ei wefan ei hun, bellach, sef:
www.wt-woods.org.uk/granllynpool Mae hon yn cynnwys llwyth o wybodaeth am y safle gan gynnwys y cynllun reolaeth a map rhyngweithio.
(diwedd)

Fe all y cyfryngau gysylltu â:
Rory Francis, Swyddog Materion Cyhoeddus a’r Wasg ar gyfer Cymru, ar 01766 832563 neu 07760 171174 roryfrancis@woodland-trust.org.uk Afallon, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd, LL41 3RH

Neu Hannah Scrase, sy’n rheoli’r safle i Goed Cadw, ar 01686 412534

Neu Swyddfa’r Wasg Coed Cadw yn Lloegr ar 01476 581121, e-bost
media@woodland-trust.org.uk

Nodiadau i olygyddion
1. Rhoddir y Wobr ar raddfa gwlad a rhanbarth. Mae Don wedi ennill Gwobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn ar gyfer Cymru.

2. Mae’r fadfall dwr gribog yn un dair rhywogaeth o fadfall yn unig sy’n frodorol ym Mhrydain. Nhw yw’r rhai mwyaf, a’r prinnaf hefyd. Mae ganddyn nhw groen lysnafeddog a dafadennog ar eu cefnau, gyda bol melyn euraidd. Yn 16 cm o hyd, mae eu niferoedd yn disgyn, ac maen nhw’n cael eu gwarchod o dan y ddeddf. Ni wnaed arolwg o fywyd gwyllt y safle hwn, a felly doedd neb yn sylweddoli pa mor bwysig y mae’r safle ar gyfer madfallod, cyn i Goed Cadw brynu’r safle yn 1998, a hynny fel rhan o brosiect Mileniwm llwyddiannus Coedlannau i’ch Bro.

Coed Cadw (The Woodland Trust)
Coed Cadw yw’r elusen fwyaf yn y DU sy’n canolbwyntio ar warchod coedlannau. Mae ganddo 250,000 o aelodau. Mae gan y mudiad bedwar amcan sef: i) sicrhau na chollir rhagor o goedlannau hynafol, ii) adfer a gwella bioamrywiaeth coedlannau, iii) creu rhagor o goedlannau gyda choed brodorol a, iv) cynyddu ymwybyddiaeth pobl am goedlannau, a’u helpu i’w mwynhau.

Sefydlwyd Coed Cadw (neu’r Ymddiriedolaeth Coedlannau gynt) yn 1972. Erbyn hyn mae’n gofalu am dros 1,000 o safleoedd, gydag arwynebedd o 20,000 hectar (50,000 erw). Mae’r rhain yn cynnwys dros 100 o safleoedd yng Nghymru, gydag arwynebedd o 1,580 hectar (3,900 erw). Mae’r safleoedd hyn bron i gyd ar agor i’r cyhoedd. Gellir cael rhagor o newyddion ar wefan www.coed-cadw.org.uk Fe fabwysiadodd Coed Cadw ei enw Cymraeg newydd yn 2000. Hen derm Cymraeg yw “coed cadw” a ddefnyddiwyd yng nghyfreithiau’r Oesoedd Canol i gyfeirio at goedlannau a warchodwyd yn arbennig.