|

Partneriaethau

Mae Coed Cadw yn ddiolchgar am gefnogaeth a chydweithrediad y cyrff canlynol, sydd wedi helpu i wneud Coed i Bawb yn bosibl yng Nghymru:

  • Comisiwn Coedwigaeth Cymru Gyda chefnogaeth cynllun grant Comisiwn Coedwigaeth Cymru, rydym wedi llwyddo i ddenu arian ychwanegol i greu a rheoli’n coedlannau i gynnig manteision economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol ar gyfer y dyfodol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael o wefan y Comisiwn.
  • Sgowtiaid yn lansio partneriaeth newydd i dathlu 100 mlynedd trwy blannu hadau dyfodol gwyrddach yng Nghoed Gwent a ger y Barri a'r Bala
  • Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig Mae YDCW wedi bod yn bartner gweithgar wrth ddatblygu ymgyrch Coed i Bawb yng Nghymru. Mae’r mudiad wedi annog ei ganghennau ac aelodau i helpu o godi arian i gefnogi’r ymgyrch, ac i helpu i blannu’r coed.