Fe all dysgu mewn coetir fod yn effeithiol iawn o ran traddodi’r cwricwlwm mewn ffyrdd ystyrlon a chofiadwy. I helpu ysgolion i fanteisio o’r profiad yma rydym ni wedi datblygu ac wedi arbrofi gydag adnoddau a phrosiectau addysgiadol fydd yn dal dychymyg plant ac yn ateb gofynion athrawon.
Coed y Ddraig – Adnodd dwyieithog newydd ar gyfer ysgolion cynradd Cymru. Fe gafodd ei ddatblygu gyda chefnogaeth y Cyngor Cefn Gwlad a Chronfa Dreftadaeth y Loteri, ac mae e ar gael am ddim yn awr.
Detectifs Byd Natur – HELP! Mae clociau byd natur wedi mynd o chwith. Mae newid yr hinsawdd yn effeithio ar bopeth, o drychfilod bychain i goed anferth. Helpwch ni i gofnodi sut mae’r tymhorau’n newid. Gwefan wedi’i hanelu at bobl ifainc, plant ac athrawon.
Cliciwch yma i weld rhai o’r adnoddau sydd ar gael am ddim, rydym ni wedi bod yn eu datblygu gydag athrawon a disgyblion. Er enghraifft, mae pecyn ‘What trees have seen’, yn gofyn i ddisgyblion roi cyfres o ddigwyddiadau yn nhrefn amser i weld beth sydd wedi digwydd yn ystod oes coeden. Mae pecyn ‘Save our wood’ yn gofyn i blant ystyried pynciau trafod wrth i ffordd newydd fygwth coetir hynafol. Mae’r rhain yn gyfleoedd gwych ar gyfer daearyddiaeth, Saesneg/llythrennedd a dinasyddiaeth. Er bod yr adnoddau hyn ar gael yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd, rydym ni wrthi’n datblygu adnoddau addysgiadol Cymraeg, fydd yn cael eu cynnig am ddim ar y we, gyda dolenni o’r safle hwn.
Dros y blynyddoedd nesaf fe fydd miloedd o blant ysgol ar draws y DU yn helpu i greu coetir newydd. Yn ogystal â chael y cyfle i blannu coed (am y tro cyntaf i lawer) fe fydd disgyblion yn mwynhau amrediad o weithgareddau addysgiadol difyr yn yr awyr agored, o dan ofal arweinwyr proffesiynol.
A fyddai tir eich ysgol yn elwa o ryw ofal arbennig? Fe allwn ni gynnig pecyn o 30 o goed brodorol (sef digon i blannu llwyn bach neu ddarn byr o wrych/perth/sietyn) fydd yn cyrraedd yn y post gyda chyfarwyddyd dwyieithog ar sut i’w plannu a’u cynnal, ynghyd â gweithgareddau sy’n cydfynd â’r cwricwlwm. Am ragor o fanylion cliciwch yma.