|

Cefnogwch ni

Peidiwch â digalonni os na allwch fynychu un o’n hachlysuron plannu coed. Mae yna sawl ffordd i chi gymryd rhan:

Plannwch goeden gartrefMae siop ar-lein Coed Cadw yn cynnig amrywiaeth eang o goed brodorol a phrysgwydd, rhai sydd yn addas ar gyfer pob gardd. Mae’r wefan yn cynnwys gwybodaeth am blannu a gofalu am goed, hefyd. Mae’r prisiau yn dechrau o £9.95 ar gyfer pedwar glasbren, ac mae hyn yn cynnwys costau postio, pacio a dosbarthu i’ch cartref o fewn 14 diwrnod. Fe aiff yr elw i gyd at Goed Cadw. Ewch i: Native Tree Shop

Plannwch goeden yn eich cymuned eich hunain Beth am drefnu achlysur plannu coed eich hunain, a gadael i Coed i Bawb roi help llaw? Cliciwch yma am gefnogaeth a chyngor am blannu coed yn y gymuned. Ymunwch yma

Cyflwynwch goeden Rhodd ar gyfer y dyfodol Mae digwyddiad o bwys yn haeddu anrheg o bwys, sef anrheg i fywyd, i fyd natur, am byth. Dathlwch fywyd rhywun yr oeddech chi yn ei g/charu neu nodwch ddigwyddiad arbennig, a thrwy gyflwyno coeden, helpwch ni i amddiffyn a gwarchod ein coetir brodorol a’r bywyd gwyllt sydd yn dibynnu arno. Mae coeden wedi’i chyflwyno yn gallu bod yn anrheg syml ac anarferol. Y safle yng Nghymru yw Coed Geufron, Penparcau, ger Aberystwyth, Ceredigion. Anrheg yw hon fydd yn dal i dyfu, flwyddyn ar ôl blwyddyn – darn bach o’r tirlun ar gyfer y cenedlaethau a ddêl. Cliciwch yma i archebu ar-lein.

Prynwch grys T Coed i BawbBeth am brynu un o bedwar dyluniad o grysiau T Coed i Bawb? Dyma’r anrheg delfrydol ar gyfer ffrindiau neu’r teulu, a defnyddir yr arian i gyd a godir i gefnogi’r ymgyrch, sef plannu coed. Ewch i wefan ein crysiau T i brynu crys heddiw.

Plannwch e-goeden
Dysgwch am fyd natur a phwysigrwydd plannu coed, a hynny heb adael y tŷ, trwy blannu e-goeden arbennig fel rhan o hwyl a sbri Coed i Bawb. Cliciwch yma ar gyfer rhagor o wybodaeth.

Ymunwch â Choed CadwMae gennym dros 130,000 o aelodau, ond gan fod rhaid inni i achub rhagor o goedlannau, mae arnom angen rhagor o gefnogwyr. Ar gyfartaledd, mae un aelod newydd, sy’n talu dim ond £2.50 bob mis, yn ein galluogi ni i ddiogelu a gwarchod hanner erw o goetir brodorol. Ymunwch â Choed Cadw

Gwnewch gyfraniad ar-lein
Mae plannu coeden yn weithred grymus. Mae’n profiad ni’n dangos fod rhoi cyfle i blant blannu coed yn creu dolen hollbwysig i fyd natur. Mae’n datblygu dealltwriaeth well o bynciau amgylcheddol ac mae’n gallu helpu i sicrhau fod y genhedlaeth nesaf yn barod i barchu a gwarchod byd natur. Os hoffech fod yn rhan o fudiad cadwraeth newydd, a helpu plant i ailgysylltu â byd natur, cliciwch yma.