|

Coed Hafod Heulog

Datblygwyr glo brig yn gofyn am ganiatâd i ddinistrio coetir hynafol, nad oes modd ei ail-greu, er mwyn cynyddu cynnyrch y glo

Coed Cadw (the Woodland Trust) yn pwysleisio fod Coed Hafod Heulog yn brawf allweddol ar gyfer polisi y Cynulliad i amddiffyn coetir hynafol
Ni all plannu newydd wneud yn iawn am golled coetir hynafol
Mae Coed Cadw (the Woodland Trust), prif elusen gwarchod coetir y DU, wedi taflu ei bwysau y tu ôl i’r ymgyrch gan bobl leol ym Mynydd Cynffig, ger Pontybont-ar-Ogwr, i amddiffyn eu hamgylchedd lleol, ac yn enwedig coedlan leol, rhag estyniad i safle glo brig arfaethedig.

Mae cwmni Celtic Energy yn ceisio am ganiatâd cynllunio i ymestyn eu safle glo brig ym Mynydd Cynffig1 ar y ffin rhwng Penybont-ar-Ogwr a Chastell Nedd Port Talbot. Fe fyddai’r cynllun yn golygu troi cwrs Afon Cynffig a dinistrio 5 hectar (12 erw) o goetir hynafol, sef Coed Hafod Heulog, sy’n sefyll ar ei glannau. Fodd bynnag, mae gan y Cynulliad, sydd yn gyfrifol am gynllunio yn y pendraw, bolisi clir a amlinellir ym mharagraff 5.2.8 o Bolisi Cynllunio Cymru2, sy’n datgan: “Mae coetiroedd hynafol a lled-naturiol yn gynefinoedd na ellir eu hadfer sy’n werthfawr iawn am eu bioamrywiaeth a dylid eu diogelu rhag datblygiad a fyddai’n achosi difrod sylweddol.”

Felly mae’r elusen yn datgan yn glir fod y cais hwn yn un o’r profion pwysicaf hyd yn hyn ar gyfer polisi goleuedig y Cynulliad, a gyflwynwyd yn 2002, i amddiffyn coetir hynafol, nad oes modd ei ail-greu.

At hynny, mae Coed Cadw yn pwysleisio y bydd yr ymgais i gloddio 2.5 miliwn o dunelli o lo, i’w losgi, yn ei gwneud hi’n anos byth i Gymru gwrdd â’i thargedau i reoli allyriannau o nwyon cynhesu’r byd o dan protocol Kyoto. Mae Prif Gynghorydd Gwyddonol y Llywodraeth, yr Athro David King, wedi pwysleisio, yn ei dyb e, mai newid yr hinsawdd yw’r bygythiad mwyaf rydym yn ei wynebu heddiw, yn fwy hyd yn oed na therfysgaeth.

Mae pobl leol wedi sefydlu grŵp gweithredu, o dan yr enw PACT, Protecting and Conserving Together, sydd wedi trefnu ymgyrch brwdfrydig yn erbyn cynlluniau Celtic Energy. Mae’r grŵp wedi bod yn cydweithio gyda Phrifysgol Caerdydd i ymgymryd ag Asesiad Effaith Iechyd ar y datblygiad, i geisio adnabod beth fydd effaith y cynllun glo brig ar iechyd y gymuned leol.

Cynhwysir Coed Hafod Heulog, y goedlan o dan bygythiad, ar y gofrestr dros dro o goedlannau hynafol1, a gyhoeddwyd gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru, sy’n rhestru pob darn o goetir hynafol dros 2 hectar (4.9 erw) sydd wedi cael ei adnabod yng Nghymru. Mae coetir hynafol yn dir sydd wedi bod yn goediog ers o leiaf 400 o flynyddoedd. Ond go brin, cyn y dyddiad hwnnw, yr oedd planhigfeydd yn cael eu creu, a felly, yn amlach na pheidio, mae coetir hynafol yn dyddio o Oes yr Iâ ddiwethaf, sef rhyw 9,000 o flynyddoedd yn ôl.

Mae’r Asesiad Amgylcheddol a gynhyrchwyd ar ran y datblygwyr yn datgan yn glir fod Coed Hafod Heulog o werth cadwriaethol uchel, a’i fod yn safle clwydo i ystlumod. Mae’r canopi yn goed derw ac onn yn bennaf, gyda choed ffawydd, cerddin a chelyn. Mae’r goedlan yn gyfoethog o ran blodau, gan gynnwys clychau’r gog, suran y coed, bresych y cŵn, a blodau’r gwynt. Mae pob un o’r rhain yn gysylltiedig â choetir hynafol.

Mae Asesiad Amgylchedd yn ceisio cyfiawnhau dinistrio’r goedlan hon ar y sail y byddai hyn yn cynyddu cynnyrch y glo y gellid ei gloddio, o 1.5 miliwn o dunelli i ryw 2.4 miliwn o dunelli, y gallai’r cwmni blannu rhagor o goed ar hyd cwrs newydd yr afon, a thrwy wneud hynny, gwneud yn iawn am y colled o goetir hynafol. Mae Polisi Cynllunio Cymru 2, fodd bynnag, yn datgan yn glir nad oes modd ail-greu coetir hynafol, a hynny oherwydd ei oed. Felly, ni all coetir newydd gwneud yn iawn am colli coetir hynafol sydd wedi datblygu ac aeddfedu dros filoedd o flynyddoedd, ac sydd â chyfoeth biolegol i brofi hynny.

Dywed Rory Francis o Goed Cadw: “Gan fod cymaint o lo, a felly, cymaint o arian, yn cwestiwn, mae’n hawdd deall pam fod y datblygwyr wedi cael eu temtio i wneud yr estyniad mor fawr â phosib, gan aberthu coetir hynafol yng Nghoed Hafod Heulog. Ond dyletswydd yr Awdurdodau lleol, yn y pendraw, yw gweithredu’r polisïau cynllunio sydd wedi cael eu cytuno, dim ots pwy yw’r ymgeisydd, a thrwy wneud hynny, amddiffyn yr amgylchedd ar gyfer y gymuned leol. Er mwyn gwneud hyn, mae’n glir y bydd rhaid iddyn nhw wrthod y cais cynllunio fel y mae’n sefyll yn awr. Serch hynny, mae’n syndod ac yn siom inni fod y datblygwyr yn meddwl, yn ôl pob golwg, bod modd iddyn nhw anwybyddu yn llwyr polisi’r Cynulliad ar amddiffyn coetir hynafol.

“Coedlannau hynafol yw ein safleoedd pwysicaf, a chyfoethocaf ar gyfer llawer o drychfilod, adar, anifeiliaid, blodau a choed. Maen nhw’n gartref i fwy o rywogaethau sydd o dan fygythiad na’r un gynefin arall yng Ngwledydd Prydain. Mae coetir hynafol yn un o drysorau ein treftadaeth naturiol; maen nhw’n lleoedd o harddwch dihafal, yn gronfeydd o dystiolaeth am newid amgylcheddol, archeoleg a hanes economaidd. Allwn ni ddim fforddio eu colli nhw, a ni all plannu newydd wneud yn iawn am eu colli nhw, chwaith.”

Mae’n debyg y caiff y cais ei ystyried gan y Cynghorau Sir Bwrdeistref Penybont-ar-Ogwr a Chastell Nedd Port Talbot dros yr ychydig misoedd nesaf. Fe ddanfonodd Coed Cadw lythyr o wrthwynebiad dros dro ar y 11 Chwefror eleni, ac fe fydd yn danfon rhagor o wybodaeth mwy manwl yn yr wythnosau nesaf.